Frédéric Chopin
Frédéric François Chopin (1 Mawrth 1810 – 17 Hydref 1849) oedd un o'r cyfansoddwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol ar gyfer y piano. Fe'i anwyd yn Fryderyk Franciszek Chopin, ym mhentref Żelazowa Wola, ger Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Roedd ei dad yn Ffrancwr a oedd wedi ymsefydlu yn y wlad, a'i fam yn Bwyles. Yn Warszawa, fe adnabwyd dawn mentrus y Chopin ifanc wrth ganu'r piano a chyfansoddi. Yn 20 oed, fe adawodd am Baris (ni ddychwelodd i Wlad Pwyl byth eto). Ym Mharis, datblygodd yrfa fel perfformiwr, athro, a chyfansoddwr, ac yno y mabwysiadodd ffurf Ffrangeg ei enw, "Frédéric-François". Ym 1836, cyfarfu â'r awdures Ffrengig George Sand. Cawsant berthynas dymhestlog a barhaodd hyd 1847. Pur wael oedd iechyd Chopin trwy lawer o'i fywyd, a gorfododd hyn iddo beidio â pherfformio'n aml yn y blynyddoed cyn ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20