John Maynard Keynes

bawd|250px|John Maynard Keynes (ar y dde) a Harry Dexter White yng nghynhadledd Bretton Woods.

Economegydd Prydeinig oedd John Maynard Keynes, Barwn 1af Keynes (5 Mehefin 188321 Ebrill 1946). Cafodd ei syniadau, Economeg Keyenes, ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau. Credai y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd. Ystyrir ef fel un o sylfaenwyr macroeconomeg.

Ganed Keynes yng Nghaergrawnt. Roedd ei dad, John Neville Keynes, yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth i ysgol Eton ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt yn 1902. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd yng Nghaergrawnt. Apwyntiwyd ef yn ymgynghorydd i'r Trysorlys yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a arweiniodd at Gytundeb Versailles Cyhoeddodd ddau lyfr ar y mater, ''The Economic Consequences of the Peace'' yn 1919, a ''A Revision of the Treaty'' yn 1922, gan ddadlau fod y taliadau a orfodid ar yr Almaen yn ormod, ac y byddai'n difetha economi'r Almaen ac yn arwain at ryfel pellach.

Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, ''General Theory of Employment, Interest and Money'', yn 1936, gan herio economeg glasurol. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Keynes, John Maynard.
Cyhoeddwyd 1956
Llyfr
2
gan Keynes, John Maynard.
Cyhoeddwyd 1955
Llyfr
3
gan Keynes, John Maynard.
Cyhoeddwyd 1961
Llyfr
4
gan Keynes, John Maynard.
Cyhoeddwyd 1956
Llyfr
5
gan Keynes, John Maynard, 1883-1946.
Cyhoeddwyd 2010
Llyfr
6
gan Keynes, John Maynard, 1883-1946.
Cyhoeddwyd 2000
Llyfr
7
gan Keynes, John Maynard, 1883-1946.
Cyhoeddwyd 1987
Llyfr
8
gan Keynes, John Maynard, 1883-1946.
Cyhoeddwyd 2006
Llyfr
9
Llyfr
10
Cyhoeddwyd 1978
Awduron Eraill: ...Keynes, John Maynard....
Conference Proceeding Llyfr