Luigi Pirandello
Llenor a dramodydd Eidalaidd oedd Luigi Pirandello (Agrigento, 28 Mehefin 1867 – Roma, 10 Rhagfyr 1936), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1934. Cyfieithwyd ei waith i nifer o ieithoedd y byd. Un o'i ddramâu enwocaf yw ''Sei personaggi in cerca d'autore'', 1921. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael, sef ''Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur'', cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan a cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod ym 1981.Ganwyd Pirandello ym mhentre Kaos, maesdref i Agrigento, yn ne Sisili i deulu cyfforddus eu byd. Symudodd y teulu wedyn i Palermo lle cafodd addysg da. Aeth wedyn i astudio yn Rhufain ond roedd rhaid iddo fe adael cyn graddio. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen. Darllenodd waith Heinrich Heine, a Goethe. Cyhoeddodd waith seiliedig ar waith Goethe, yr ''Elegie Boreali'' tra yno. Ym Mawrth 1891, enillodd ei Ddoethuriaeth. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20