Julio Cortázar

Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Julio Cortázar, a ysgrifennai hefyd dan y ffugenw Julio Denis (26 Awst 191412 Chwefror 1984). Mae ei waith yn nodedig am ei dechnegau arbrofol a'i themâu dirfodol. Roedd yn un o brif lenorion y ''boom latinoamericano'' ac yn un o'r ffigurau pwysicaf yn llên yr Ariannin yn yr 20g.

Ganwyd yn Ixelles, un o fwrdeistrefi Brwsel, Gwlad Belg, yn fab i rieni Archentaidd. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y teulu yn ôl i'r Ariannin ac yno cafodd ei addysg. Gweithiodd fel athro a chyfieithydd. Ysgrifennodd ei nofelau cyntaf yn 1949 (''Divertimento'') a 1950 (''El Examen''), ond ni chawsant eu cyhoeddi nes ar ôl ei farwolaeth. Roedd Cortázar yn anfodlon â llywodraeth Juan Perón a sefyllfa'r dosbarth canol yn yr Ariannin, ac ymfudodd felly i Baris, Ffrainc, yn 1951.

Yn 1951 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, ''Bestiario'', ac yn ddiweddarach casglwyd rhagor o'i ffuglen yn ''Final del juego'' (1956), ''Las armas secretas'' (1958), ''Historias de cronopios y de famas'' (1962), ''Todos los fuegos el fuego'' (1966), ''Un tal Lucas'' (1979), a ''Queremos tanto a Glenda, y otros relatos'' (1981). Ystyrir yr wrthnofel ''Rayuela'' (1963) yn gampwaith Cortázar. Cyhoeddodd dair nofel arall yn ystod ei oes: ''Los premios'' (1960), ''62/modelo para armar'' (1968), a ''Libro de Manuel'' (1973). Ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, dramâu, a sawl cyfrol o ysgrifau.

Derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1981. Bu farw ym Mharis yn 69 oed i drawiad ar y galon, wedi iddo ddioddef o liwcemia am nifer o fisoedd. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 2005
Llyfr
2
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1980
Llyfr
3
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1987
Awduron Eraill: ...Cortázar, Julio....
Llyfr
4
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1993
Llyfr
5
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1988
Llyfr
6
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1993
Llyfr
7
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1983
Llyfr
8
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1988
Llyfr
9
gan CORTAZAR, JULIO.
Cyhoeddwyd 1985
Llyfr
10
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 1998
Llyfr
11
gan Cortázar, Julio.
Cyhoeddwyd 2020
Llyfr
12
gan Cortázar, Julio, 1914-1984.
Cyhoeddwyd 1995
Llyfr
13
gan Cortázar, Julio., Komnenić, Milan.
Cyhoeddwyd 1984
Llyfr
14
gan Cortázar, Julio, 1914-1984.
Cyhoeddwyd 2003
Llyfr
15
Cyhoeddwyd 1993
Awduron Eraill: ...Cortázar, Julio....
Llyfr