Marie Luise Kaschnitz
| dateformat = dmy}}Awdures o'r Almaen oedd Marie Luise Kaschnitz (31 Ionawr 1901 - 10 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur straeon byrion a bardd. Caiff ei hystyried fel un o'r prif feirdd yn y cyfnod a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd.
Ganed Marie Luise von Holzing-Berslett yn ninas Karlsruhe, yn nhalaith Baden-Württemberg, yr Almaen ar 31 Ionawr 1901; bu farw yn Rhufain. Priododd â'r archeolegydd a'r awdur Guido Freiherr Von Kaschnitz-Weinberg yn 1925, a theithiodd gydag ef ar deithiau archeolegol.
Cafodd ganmoliaeth uchel am ei straeon byrion, a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau yn ystod ei bywyd. Casglwyd y straeon hyn mewn llyfrau fel ''Orte and Engelsbrücke''. Ymgorfforodd lawer o'r llefydd a welodd ar ei theithiau yn ei gwaith llenyddol. Mae ei storiau'n feddylgar o ran natur, yn hytrach nag yn llawn digwyddiadau, yn delio â chamau penodol bywyd neu berthynas menyw. Ei phrif gasgliad yw ''Lange Schatten'' (Cysgodion Hirion). Ei hoff stori ganddi oedd ''Das dicke Kind'' ('Y Plentyn Tew) yn 1961.
Y casgliad o draethodau ''Menschen und Dinge'' (1945) oedd y garreg filltir cyntaf iddi, a dyma'r gwaith o gyhoeddodd i ddarllenwyr Almaeneg fod yma lenor arbennig. Ymdriniodd ei cherddi â'r rhyfel a'r cyfnod ar ôl y rhyfel, gan fynegi'r dyhead am heddwch y gorffennol, ond hefyd yn gobeithio am y dyfodol. Roedd y gyfrol ''Dein Schweigen - meine Stimme'' (Eich tawelwch - fy llais i) yn delio â marwolaeth ei gŵr. Ar ôl 1960 cafodd ei ddylanwadu gan Pablo Neruda.
Am gyfnod byr, dysgodd wleiyddiaeth ym Mhrifysgol Frankfurt. Roedd yn aelod o PEN ac enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Georg Büchner yn 1955 a Gwobr Roswitha ym 1973. Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Nobel mewn Llenyddiaeth yn 1967. Bu farw yn 73 oed yn Rhufain. Sefydlwyd 'Gwobr Marie Luise Kaschnitz' yn ei henw, i gofio amdani. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
Llyfr
7
8
9
10
11
12
gan Kaschnitz, Marie Luise, 1901-1974.
Cyhoeddwyd 2011
Awduron Eraill:
“...Kaschnitz, Marie Luise, 1901-1974....”Cyhoeddwyd 2011
Llyfr
13
14
15
gan Huch, Ricarda Octavia., Lasker-Schüler, Else., Kolb, Annette, 1870-1967., Goll, Claire, 1891-1977., Sachs, Nelly., Kolmar, Gertrud., Langgässer, Elisabeth., Seghers, Anna, 1900-1983., Kaschnitz, Marie Luise, 1901-1974., Fleißer, Marieluise, 1901-1974., Keun, Irmgard., Ausländer, Rose, 1901-1988., Rinser, Luise, 1911-2002., Domin, Hilde., Kaléko, Mascha., Aichinger, Ilse., Mayröcker, Friederike., Bachmann, Ingeborg., Reinig, Christa., Wolf, Christa, 1929-2011., Wohmann, Gabriele, 1932-, Kirsch, Sarah, 1935-2013., Kiwus, Karin, 1942-, Hahn, Ulla., Jelinek, Elfriede., Köhler, Barbara, 1959-, Hensel, Kerstin, 1961-, Hermann, Judith.
Cyhoeddwyd 2001
Cyhoeddwyd 2001
Llyfr
16